Archebu – telerau ac amodau
Rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio â’r rheolau ac amodau cyffredinol sy’n berthnasol i bawb sy’n defnyddio’r cyfleusterau. Mae pob gweithgaredd a chyfleuster yn amodol ar argaeledd.
Nid oes modd trosglwyddo aelodaeth Dull Byw a rhaid i gardiau Smart gael eu defnyddio gan yr unigolion sydd wedi’u nodi yn y Cofnod Aelodaeth Hamdden yn unig.
Rhaid cyflwyno cardiau Smart wrth y dderbynfa bob amser er mwyn cael mynediad. Rhaid cael derbynebau, a’u cadw, ar gyfer pob gweithgaredd.
Gall aelodau (deiliaid cerdyn Smart) logi cyfleusterau hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw. Mae modd gwneud hyn yn bersonol wrth dderbynfa’r ganolfan hamdden, dros y ffôn, ar yr Ap Leisure Lifestyle (Dull Byw Hamdden) neu ar-lein ar y wefan.
Nid oes modd archebu lle mewn dosbarthiadau ar gyfer mwy nag un person oni bai bod yr aelod dan sylw yn rhan o’r un aelodaeth (cyplau/teulu).
Rhaid i aelodau fynd i’r dderbynfa cyn i’w sesiwn ddechrau er mwyn sicrhau bod eu presenoldeb yn cael ei gofnodi. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at dâl am beidio â mynd i’r dosbarth.
Os bydd angen i chi ganslo archeb, rhaid i chi wneud hynny drwy ddefnyddio’r ap neu’r system archebu ar-lein neu gysylltu â’r ganolfan hamdden o leiaf 24 awr ymlaen llaw. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at dâl am beidio â mynd i’r dosbarth.
Mynediad i blant – telerau ac amodau
- Nid oes modd i blant dan 14 oed fynd i ddosbarthiadau i oedolion.
- Mae dosbarthiadau penodol ar gael i blant dan 14 oed. Bydd canolfannau hamdden yn dangos y dosbarthiadau sydd ar gael i blant bob amser.
- Mae plant 14–16 oed yn gallu mynd i ddosbarthiadau ‘priodol’.
- Hyfforddiant cylchol – gall plant rhwng 14 ac 16 oed fynd i hyfforddiant cylchol gydag oedolyn cyfrifol (16 oed neu’n hŷn). Ni fyddan nhw nhw’n cael defnyddio pwysau rhydd. Oedran/Aeddfedrwydd: mae angen i blant fod yn ddigon aeddfed a chyfrifol i ddilyn y rheolau diogelwch.
- Beicio grŵp – gall pobl 14 oed neu’n hŷn fynd. Mae’r beic wedi’i ddylunio i fod yn addas i’r mwyafrif o ddefnyddwyr rhwng 150cm a 205cm / 59.1 modfedd a 81.7 modfedd. Oedran/Aeddfedrwydd: mae angen i blant fod yn ddigon aeddfed a chyfrifol i ddilyn y rheolau diogelwch. Weithiau gall fod yn demtasiwn i blant bedlo mor gyflym ag y gallan nhw, a gall hynny fod yn anniogel. Oherwydd bod y beic beicio grŵp yn feic gêr sefydlog, gall pwysau’r olwyn flaen droi’r pedalau ar gyflymder uchel iawn gyda llawer o fomentwm os nad oes digon o wrthiant. Canllawiau ffitrwydd ieuenctid ar gyfer hyfforddiant gwrthiant: Ni ddylai plant cyn-glasoed “ddringo bryniau” ar y beic beicio grŵp gyda llawer o wrthiant trwm ar yr olwyn flaen. Mae canllawiau ffitrwydd ieuenctid yn cynghori yn erbyn hyfforddiant gwrthiant i blant oherwydd bod eu platiau twf (rhwng yr esgyrn) yn parhau i ddatblygu. Mae canllawiau’r matrics yn argymell goruchwylio plant dan 14 oed, felly, gan nad ydyn ni’n caniatáu plant dan 14 oed, nid oes gofyniad goruchwylio. Os bydd hyn yn broblem, efallai bydd angen i ni adolygu hynny.
- Mae plant rhwng 14 ac 16 oed yn cael mynd i ddosbarthiadau heb godi pwysau i oedolion.
- Hyfforddwr y dosbarth a staff y ganolfan hamdden sy’n penderfynu ynghylch dosbarthiadau ‘priodol’.
- Mae plant 16 oed neu’n hŷn yn cael mynd i bob dosbarth ar eu pennau eu hunain.
Bydd cynnwys a gweithredu’r polisi hwn yn cael eu monitro, adolygu a’u diweddaru’n rheolaidd. Bydd staff a chwsmeriaid yn cael gwybod yn ffurfiol am unrhyw ddiweddariadau.