Pwll nofio - pwll nofio 5-lôn 25m. Mae amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gael yn y pwll gan gynnwys sesiynau rhieni a phlant bach, cyrsiau nofio ac aerobeg dŵr.
Ystafell ffitrwydd – Amrywiaeth fawr o gyfarpar ymarfer corff. P’un a ydych chi eisiau tynhau’r corff, colli pwysau, magu cryfder neu gynyddu stamina, mae ein staff cymwysedig ac ymroddedig yma i helpu.
Ystafell iechyd - Ar ôl eich sesiwn ymarfer corff, beth am ymlacio yn ein hystafell iechyd Dull Byw sydd â sawna.
Stiwdio ddawns – Dewch i roi cynnig ar rywbeth newydd! Mae mwy na 11 o ddosbarthiadau bob wythnos. Mae hefyd ar gael i’w logi’n breifat.
Cyrtiau sboncen - Ar gael i’w llogi am gyfnodau o 45 munud.
Cae Trydedd Genhedlaeth â llifoleuadau – Cae trydedd genhedlaeth newydd sbon o’r math diweddaraf â llifoleuadau y gellir ei ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn sy’n addas ar gyfer gemau pêl-droed ac yn ddelfrydol at ddibenion hyfforddiant.
Cyfleusterau newid – 3 ystafell newid i deuluoedd, ystafelloedd newid i ddynion ac i fenywod ar wahân a 2 ystafell newid ddynodedig i bobl anabl.
Parcio ceir am ddim – gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.
Oriau agor y ganolfan
Noder nad yw rhai cyfleusterau bob amser ar gael i'r cyhoedd ar yr amseroedd uchod. Gwiriwch yr amserlenni am ragor o wybodaeth