Mae Canolfan Hamdden Pontllan-fraith ar gau ar hyn o bryd. Eich cyfleuster amgen agosaf yw Canolfan Hamdden Trecelyn. Byddwn ni’n diweddaru'r dudalen hon gyda rhagor o wybodaeth pan fydd ar gael. Diolch am eich dealltwriaeth.
Pethau i'w gwneud yn Canolfan Hamdden Pontllan-fraith
Ein cyfleusterau
Cyrtiau sboncen - Dau gwrt sboncen gydag oriel gwylwyr. Ar gael i’w llogi am gyfnodau o 45 munud.
Neuadd chwaraeon - Neuadd chwaraeon amlbwrpas â 5 cwrt y gellir ei defnyddio ar gyfer badminton, pêl-fasged, pêl-droed pump bob ochr, pêl-rwyd, pêl foli ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill. Mae’r neuadd chwaraeon hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau arbennig fel cyngherddau, dawnsfeydd, arddangosfeydd, ciniawau a chynadleddau.
Stiwdio ddawns – Dewch i roi cynnig ar rywbeth newydd! Mae llawer o ddosbarthiadau i ddewis o’u plith bob wythnos. Mae hefyd ar gael i’w logi’n breifat.
Cae pob tywydd trydedd genhedlaeth – Wyneb hyfforddiant pob tywydd amlbwrpas sy’n ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi, criced, hoci ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill. Mae’r cae trydedd genhedlaeth wedi cael ei gymeradwyo’n llawn gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru hyd at lefel Cynghrair Cymru.
Ystafell ffitrwydd - Amrywiaeth fawr o gyfarpar ymarfer corff. P’un a ydych chi eisiau tynhau’r corff, colli pwysau, magu cryfder neu gynyddu stamina, gallwn helpu.
Parcio ceir am ddim – gan gynnwys mannau parcio penodol i bobl anabl.
Oriau agor y ganolfan
Noder nad yw rhai cyfleusterau bob amser ar gael i'r cyhoedd ar yr amseroedd uchod. Gwiriwch yr amserlenni am ragor o wybodaeth
Dydd Llun
16.00 - 22.00
Dydd Mawrth
16.00 - 22.00
Dydd Mercher
16.00 - 22.00
Dydd Iau
16.00 - 22.00
Dydd Gwener
16.00 - 22.00
Dydd Sadwrn
09:00 - 17.00
Dilynwch ni
Sut i ddod o hyd i Canolfan Hamdden Pontllan-fraith