Gwersi Nofio

Dysgwch sut i nofio gyda ni

P’un a ydych chi am fynd i nofio am y tro cyntaf, magu hyder yn y dŵr neu wella techneg, gall ein tîm Ysgol Nofio helpu. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o wersi nofio ar draws 6 o’n canolfannau hamdden sydd â phyllau nofio.

Mae ein tîm hyfforddedig o athrawon nofio’r Gymdeithas Nofio Amatur yn cynnig rhaglen nofio gynhwysfawr gwych yn ein 6 pwll nofio. Mae’r rhaglen ar gael i blant (o bedwar oed), ac mae’r dosbarthiadau yn sicrhau gwell hyder yn y dŵr a thechneg nofio wrth ganiatáu iddyn nhw barhau heb bwysau ar eu cyflymder eu hun.

Pam ymuno ag Ysgol Nofio CBSC?

Pob oedran a gallu – Gwersi hwyl am 48 wythnos y flwyddyn.

Hyfforddwyr Cymwys Nofio Cymru – Dysgwch gyda’r hyfforddwyr gorau.

Nofio cyhoeddus AM DDIM – Gallwch ymarfer rhwng gwersi yn unrhyw un o’n 6 canolfan hamdden AM DDIM gyda Debyd Uniongyrchol Dysgu Nofio.

Cynnydd parhaus – Ennill gwobrau a bathodynnau wrth i chi symud trwy’r camau.

Tawelwch meddwl – Mae achubwr bywyd yn bresennol ym mhob un o’n gwersi.

Gwersi o safon – Mae ein rhaglen yn dilyn fframwaith Dysgu Nofio, Nofio Cymru.

Olrhain eich cynnydd – Gall rhieni fewngofnodi i’r Borthol Hafan i weld cynnydd eu plentyn a chael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch taith nofio eu plentyn. Cael mynediad AM DDIM at Borthol Dysgu Nofio CBSC i weld sut rydych chi neu eich plentyn yn dod ymlaen ac yn symud trwy’r camau.

Dim costau mawr ymlaen llaw – Opsiwn talu’n hawdd yn fisol trwy Ddebyd Uniongyrchol*.

*Mae eich pris debyd uniongyrchol chi yn seiliedig ar raglen 48 wythnos dros 12 mis (2 wythnos i ffwrdd ar gyfer y Nadolig a 2 wythnos i ffwrdd ar gyfer gwyliau’r haf ym mis Awst)

 

Cysylltwch â’r Cydlynydd Nofio yn eich canolfan hamdden leol chi am ragor o wybodaeth ac i drafod argaeledd:

Canolfan Hamdden Bedwas – Ffon: 029 2085 2538 / Ebost: lcbedwas@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Caerffili – Ffon: 029 2085 1845 / Ebost: lccaerph@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Cefn Fforest – Ffon: 07749 587992 / Ebost: lccefn@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Heolddu – Ffon: 07933 174374 / Ebost: lcheol@caerphilly.gov.uk

Canolfan Hamdden Trecelyn – Ffon: 01495 248100 / Ebost: lcnewb@caerffili.gov.uk

Canolfan Hamdden Rhisga – Ffon: 01633 600940 / Ebost: lcrisca@caerffili.gov.uk

Cynllun Gwers Nofio:

Dysgu Nofio Cymru Sblash 1-6

Dysgu Nofio Cymru Ton 1-8