Mae eich ystafell ffitrwydd newydd yn Heolddu
Mae eich ystafell ffitrwydd sydd newydd ei hailwampio yn awr ar agor yn Heolddu
Rydyn ni’n cynnig mwy, er mwyn i chi gyflawni mwy…
Gyda golwg newydd ffres, offer newydd sbon, trefn well ar y gampfa a chymorth gan ein tîm cyfeillgar, mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch chi i roi hwb i’ch trefn ffitrwydd ar gyfer yr haf!
Rhowch hwb i’ch ffitrwydd gydag amrywiaeth o offer cardio newydd gan gynnwys peiriannau rhwyfo, peiriannau stepio, beiciau awyr a pheiriannau sgïo. Profwch eich cryfder i’r eithaf a chynyddu’ch pŵer gyda pheiriannau gwrthiant newydd sbon a dewis o bwysau rhydd. Ewch i’r lefel nesaf gyda’ch sesiynau ymarfer drwy roi cynnig ar rywbeth newydd gyda’n gorsaf ymarfer bwrpasol, sy’n cynnwys bag paffio. Cysylltwch ag aelodau eraill a siarad â’n tîm ffitrwydd cyfeillgar yn ein hardal newydd i aelodau.
Mae ein haelodaeth hefyd yn cynnwys mynediad at ein pwll nofio 25m, dewis o ddosbarthiadau, â’r opsiwn i ymlacio ar ôl eich sesiwn ymarfer corff yn ein hystafell iechyd gyda sawna.
Gofrestru i gael eich tocyn AM DDIM!*
*Telerau ac Amodau’n berthnasol